Sion Jones, cynghorydd Llafur tros Bethel a Seion
Mae un o gynghorwyr Gwynedd wedi cyhuddo’r Cyngor o “godi bwganod” er mwyn annog cynghorwyr i bleidleisio o blaid cynllun datblygu dadleuol.

 phleidlais dros y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei chynnal yr wythnos nesaf mae Cyngor Gwynedd wedi trefnu cyfres o sesiynau er mwyn codi ymwybyddiaeth am y cynllun ar gyfer cynghorwyr y Sir.

Byddai’r cynllun yn caniatáu codi 7,902 o dai yng Ngwynedd a Môn.

Ond, yn ôl cynrychiolydd ward Bethel, Siôn Jones, dydy’r cynllun ddim yn debygol o gael ei basio ac mae’r Cyngor yn cynnal y sesiynau yma er mwyn annog cynghorwyr i bleidleisio o’i blaid.

“Dw i’n rhagweld bydd o’n methu ar hyn o bryd,” meddai Siôn Jones wrth golwg360. “Dyna pam mae swyddogion yr adran wedi cymryd camau rwan i wneud yn siŵr ei fod yn medru pasio.

“Dw i’n meddwl mai ffordd o godi bwganod ar yr holl broses ydi hyn. Yn ein cyfarfod diwethaf, mi roedd y Cyngor yn codi bwganod am y risgiau posib o wrthod y cynllun.”

 “Dadlau mawr”

Mae Siôn Jones yn disgwyl tensiwn pan fydd fersiwn terfynol y Cynllun Datblygu Lleol yn cael ei gyflwyno i gyfarfod o’r cyngor llawn ar Orffennaf 28.

“Dw i’n meddwl bydd ‘na dadlau mawr yn digwydd yn y siambr wythnos nesaf a dw i’n credu bydd pob un blaid wedi eu rhwygo rhwng caniatáu a gwrthod [y cynllun],” meddai wedyn.

“Mae cynghorwyr wedi cael llond bol gyda’r broses gan fod o’n mynd i gael gymaint o effaith ar ein cymunedau. Does dim ymgynghori wedi bod. Dw i’n cynnig ein bod yn mynd yn ôl i’r cam cyntaf i ail ymgynghori.”

“Cadarnleoedd Cymraeg”

Mae’r Cynghorydd yn nodi ei fod wedi gwrthwynebu’r cynllun ers y dechrau ac yn pryderu am yr effaith y byddai’n cael ar ei ward.

Dan y cynllun mi fyddai 40 o dai ychwanegol yn cael eu hadeiladu ym Methel, fydd yn sicr o “gael effaith ar yr iaith” yno yn ôl Siôn Jones.

“Mae’r iaith Gymraeg yn hanfodol bwysig … yn ein cymunedau Cymraeg fel Bethel, Llanrug, Waunfawr. Mae lot o bryder ynglŷn ag effaith hyn ar ein cadarnleoedd Cymraeg.”