Ar drothwy’r Eisteddfod Genedlaethol ym Mȏn, mae rhai o feirdd a llenorion amlycaf Gwynedd a Mȏn yn rhybuddio y gallai mabwysiadu Cynllun Datblygu newydd danseilio’r iaith Gymraeg yn ei chadarnleoedd olaf. Bydd y Cynllun yn arwain at godi 7,902 o dai newydd ar draws y ddwy sir.

Mewn llythyr a anfonwyd ganddynt at arweinyddion Cynghorau Gwynedd a Mȏn mae’r beirdd a’r llenorion hefyd yn feirniadol o’r Cynllun Datblygu am fethu darparu’n ddigonol ar gyfer anghenion lleol.

Yn ȏl un o’r rhai a arwyddodd y llythyr, y nofelydd Angharad Price, “anghenion pobol leol ddylai fod yn greiddiol mewn cynllun o’r fath. Mae ’na angen mawr am dai fforddiadwy, a thai addas i’w gosod ar rent i deuluoedd ifanc. Mae’r Cynllun Datblygu yn ddiffygiol o’r safbwynt hwnnw.”

Bydd Cyngor Gwynedd yn trafod Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Mȏn ar 28 Gorffennaf a Chyngor Mȏn yn ei drafod ar Gorffennaf 31.

Dweud eu dweud

“Mae nifer y tai y bwriedir eu codi gennych ei hun yn peri braw…” meddai’r llythyr. “Mwy brawychus byth yw’r ffaith na chomisiynwyd gan Gyngor Gwynedd asesiad iaith annibynnol i ymchwilio i effaith y Cynllun Datblygu Lleol ar hyfywedd yr iaith Gymraeg yn yr ardaloedd hyn.

“Dylai pob cyngor ofalu am les y bobl a gynrychiola. Dyma rai o gadarnleoedd olaf yr iaith. Rydym ninnau fel llenorion, yn drigolion Gwynedd a Môn, yn byw’n bywydau trwy’r Gymraeg, yn creu ynddi ac yn ennill ein bywoliaeth trwyddi – fel y gwna miloedd o’n cyd-drigolion. Mae’n adnodd diwylliannol ac economaidd amhrisiadwy.

“Mae’r ffaith na chynhwysir asesiad iaith arbenigol ac annibynnol gennych yn ddiffyg sylfaenol ac yn achos gwir bryder. Hyd nes y cyflawnir asesiad o’r fath, a hyd nes y creffir mewn ffordd fwy ystyrlon ar wir oblygiadau diwylliannol a chymunedol y datblygiadau dan sylw, pwyswn arnoch i beidio â mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Lleol. Mae gormod yn y fantol.”

Pwy sydd wedi llofnodi?

Myrddin ap Dafydd, Jason Walford Davies, Jane Edwards, Sonia Edwards, Meg Elis, Gwyneth Glyn, Ifor ap Glyn, Annes Glynn, Meirion MacIntyre Huws, Rhys Iorwerth, Lloyd Jones, Llion Jones, Mared Lewis, Peredur Lynch, Robin Llywelyn, Patrick McGuinness, Derec Llwyd Morgan, Jan Morris, Twm Morys, Sian Northey, Angharad Price, Emlyn Richards, Cefin Roberts, Lleucu Roberts, Gerwyn Wiliams, Aled Jones Williams, Cen Williams, Manon Wyn Williams.