Prifysgol Bangor
Mae undeb llafur UNSAIN wedi croesawu sylwadau’r Prif Weinidog, Carwyn Jones a ddywedodd y byddai’n gwrthwynebu diswyddiadau gorfodol ym Mhrifysgol Bangor.
Daw sylwadau Carwyn Jones wedi iddo gyfarfod ag ymgyrchwyr UNSAIN yr wythnos diwethaf gan ailddatgan ei wrthwynebiad i ddiswyddiadau gorfodol.
Ym mis Mehefin fe ddaeth hi i’r amlwg y gallai 170 o swyddi fod yn y fantol ym Mhrifysgol Bangor, ond erbyn hyn 115 yw’r ffigwr yn dilyn cynllun diswyddiadau gwirfoddol.
‘Gwrthwynebu diswyddiadau gorfodol’
Mae’r swyddi yn codi o ganlyniad i “heriau ariannol sylweddol” ac yn ôl Geoff Edkins ar ran undeb UNSAIN – “mae’n wych fod y Prif Weinidog wedi ychwanegu ei awdurdod sylweddol i’r ymgyrch i ddiogelu swyddi ym Mhrifysgol Bangor.”
“Fel yntau, mae UNSAIN ac undebau llafur eraill yn llwyr wrthwynebu diswyddiadau gorfodol,” meddai.
“Mae’n rhaid inni ddiogelu ansawdd addysg a chymorth myfyrwyr ym Mangor a byddwn yn gweithio’n galed gyda’r brifysgol i gyflawni’r nodau hynny. Fe fydd yr undebau llafur yn parhau i adnabod lle gall arbedion gael eu gwneud er mwyn diogelu swyddi,” meddai wedyn.
‘Cyfnod ymgynghori’
Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y Prif Weinidog “wedi dweud yn gyson na ddylai diswyddiadau gorfodol byth fod yn fan cychwyn.”
“Rydym yn ymwybodol o’r sefyllfa ym Mhrifysgol Bangor ac yn deall y bydd cyfnod o ymgynghori. Rydym yn disgwyl i staff a’r undebau cael rôl ymhob cam o’r broses.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran Prifysgol Bangor eu bod wedi “ymrwymo i wneud popeth o fewn ei gallu i osgoi diswyddiadau gorfodol, wrth hefyd wneud yr arbedion gwerth £8.5 miliwn sydd eu hangen.”