Aelodau Fforwm Ieuenctid Amgueddfa Cymru
Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru wedi derbyn £874,500 gan y Loteri Genedlaethol i annog pobol ifanc i ymgymryd â threftadaeth.

Mae hyn yn rhan o raglen ‘Tynnu’r Llwch’ i gynnau diddordeb pobol ifanc Cymru mewn hanes – ac fe fydd yn cydweithio â mudiadau gan gynnwys Barnardo’s Cymru, Llamau a ProMo Cymru.

Fe fydd y cynllun yn golygu y gall pobol ifanc gymryd rhan mewn prosiectau ymhob un o safleoedd Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

‘Arweinwyr treftadaeth’

“Rydym wrth ein bodd yn derbyn y wobr nawdd hon trwy’r rhaglen ‘Tynnu’r Llwch’ gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL),” meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Amgueddfa Cymru.

“Pobol nid sefydliadau yw cludwyr diwylliant. Mae gan bobol ifanc yr hawl i gymryd rhan weithredol yn rhannu ac yn llunio eu treftadaeth,” meddai.

Ychwanegodd y byddan nhw’n llunio rhaglenni i “sicrhau bod pobol ifanc yn dod yn arweinwyr treftadaeth ar gyfer y dyfodol.”