Mae cynllun pêl-droed newydd wedi helpu 322 o blant i wella’u sgiliau gyda geiriau a rhifau ers mis Mawrth eleni.

Clwb Pêl-droed Porthmadog sy’n trefnu’r cwrs llythrennedd a rhifedd.

Mae 13 o ysgolion eisoes wedi cymryd rhan yn y sesiynau dwy awr, a gafodd eu cynnal dros gyfnod o bum wythnos.

Mae’r cwrs wedi’i rannu’n flociau o bum sesiwn ar y tro, a’r sesiwn olaf yn cael ei chynnal yn Y Traeth, sef stadiwm Clwb Pêl-droed Porthmadog, er mwyn i blant ddysgu sut mae menter busnes gymdeithasol leol yn cael ei threfnu.

Sefydliad Cymunedol yng Nghymru, Comic Relief, Cartrefi Cymunedol Gwynedd a chynllun Mynediad i Addysg Prifysgol Bangor sy’n ariannu’r fenter.

Mae disgwyl i dros 300 o blant gymryd rhan yn y sesiynau newydd ym mis Medi.

Cynllun i ferched

Mae trefnwyr y cynllun hefyd wedi sefydlu cwrs i ferched gyda chefnogaeth ariannol gan Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Diben y cwrs yw sicrhau bod mwy o ferched yn chwarae pêl-droed yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, mae 20 o ferched yn cymryd rhan mewn sesiynau wythnosol yn Y Traeth.

Mae’r cwrs yn benodol yn targedu merched pump i wyth oed, a bydd yn cael ei ymestyn o fis Medi ymlaen i ardaloedd Blaenau Ffestiniog a Dolgellau.

Y gobaith yn y pen draw yw sefydlu timau i ferched yn yr ardaloedd hynny.

Bydd 10 sesiwn ‘Ysgol Bêl-droed’ yn cael eu cynnal dros yr haf yn ardaloedd Porthmadog, Tywyn a Dolgellau.