Porthladd Caergybi (Llun Awdurdod y Porthladd)
Mae elusen anifeiliaid yr RSPCA wedi croesawu penderfyniad llys i roi carchar wedi’i ohirio i ddyn a geisiodd smyglo cŵn bach i mewn i Gymru.

Fe gafodd Ben Illidge o Northwith, Swydd Caer, ei ddedfrydu ddoe yn Llys Ynadon Caernarfon ar ôl cael ei ddal yn cludo 35 o gŵn bach trwy borthladd Caergybi.

Yn ôl yr elusen, doedd gan y cŵn ddim digon o aer ac roedd Ben Illidge wedi cludo’r cŵn mewn amgylchiadau “cwbl anaddas”.

Mae’r RSPCA a nifer o asiantaethau swyddogol eraill yn cynnal ymgyrch i atal smyglo anifeiliaid trwy Gaergybi.

‘Datganiad pwysig’

Fe gafodd Ben Illidge dair dedfryd o 18 wythnos o garchar wedi’u gohirio – y rheiny i gydredeg – a’i orchymyn i wneud 200 awr o wasanaeth cymunedol a’i orchymyn i dalu mwy na £3,000 mewn dirwyon a chostau.

“Mae’r erlyniad yma’n gwneud datganiad pwysig na fydd asiantaethau’n cadw o’r neilltu tra bod gwerthwyr diegwyddor yn ceisio gwneud arian cyflym wrth achosi dioddefaint i gŵn bach diniwed a diamddiffyn,” meddai Ian Briggs, prif arolygydd uned gweithredoedd arbennig yr RSPCA.