Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno cais i Gyngor Sir Ceredigion am ganiatâd cynllunio i ailwampio neuadd breswyl hanesyddol Pantycelyn.

Y nod yw creu 200 o ystafelloedd gwely en-suite ynghyd â gofod cymdeithasu at ddefnydd myfyrwyr a’r gymuned leol.

Mae penseiri a benodwyd gan Brifysgol Aberystwyth wedi llunio cynlluniau manwl yn dangos sut mae’r Brifysgol yn bwriadu trawsnewid Pantycelyn yn llety ar gyfer myfyrwyr Cymraeg eu hiaith.

O sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer y newidiadau i’r adeilad Gradd 2 rhestredig, y bwriad yw ailagor Pantycelyn erbyn mis Medi 2019.

“Dyma garreg filltir bwysig arall yn hanes Pantycelyn wrth i ni symud gam yn nes at ailagor yr adeilad fel llety myfyrwyr,” meddai Gwerfyl Pierce Jones, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a Chadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn.

Bydd y cynlluniau cysyniadol i’w gweld ym Mhafiliwn Addysg Prifysgol Aberystwyth ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd (Gorffennaf 24-27) ac ar stondin y Brifysgol ar faes Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn (Awst 4-12). Maen nhw hefyd i’w gweld ar wefan y Brifysgol.