Mae elusen anifeiliaid yr RSPCA yn rhybuddio pobol i beidio ag annog ebolion a cheffylau gwyllt i’w dilyn wrth iddyn nhw gerdded llwybrau cyhoeddus Eryri.

Daw’r rhybudd wedi i ebol gael ei achub ar ôl dilyn aelodau o’r cyhoedd am ryw bedair milltir i lawr un o’r mynyddoedd yn ardal Eryri.

Fe gafodd RSPCA Cymru eu galw ar Orffennaf 1 i achub yr ebol oedd wedi dilyn y cyhoedd o ardal cronfa ddŵr Coedty ger Tal-y-bont yng Nghonwy.

Mae’r Carneddau yn enwog am eu brîd arbennig o ferlod gwyllt sy’n crwydro’r mynyddoedd.

Crwydro’n rhy bell wrth ei fam

Mae’n debyg i’r ebol ddilyn teulu am bedair milltir cyn cael ei gario ar ôl iddo ddisgyn i’r ddaear, ac roedd e wedi crwydro’n rhy bell erbyn hynny i ddychwelyd at ei fam.

“Yn anffodus, er bod rhywrai wedi ceisio gwneud y peth gorau, rydyn ni’n galw ar bobol i beidio ag arwain ebolion fel hyn oddi wrth eu mamau,” meddai Fiona Jones, milfeddyg o Lanelwy a gafodd y gwaith o achub yr ebol.

“Mae’n bwysig nad yw pobol sy’n cerdded ger ceffylau yn denu ebolion i ffwrdd, yn ddiofal neu beidio – ac os ydyw’n digwydd eu bod yn gwneud ymdrech i’w dychwelyd cyn gynted â phosib. Petai hyn wedi digwydd yn yr achos hwn, byddai’r ebol dal gyda’i fam,” meddai wedyn.

Ychwanegodd Gareth Johnson, swyddog ceffylau RSPCA Cymru fod yr ebol yn “gwneud yn dda” ac yn cael ei fwydo gan laeth o botel yn un o ganolfannau achub yr elusen.