Mae dyn 46 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal yn dilyn gwrthdrawiad rhwng fan a gyrrwr beic modur ger Cerrigydrudion, Conwy nos Sul.

Bu farw’r beiciwr modur yn y fan a’r lle yn dilyn y gwrthdrawiad ar yr A5 wrth gyffordd B4501.

Cafodd gyrrwr y fan VW Transporter ei arestio ac mae’n parhau i gael ei holi yn y ddalfa gan yr heddlu.

Dywedodd Emlyn Hughes o Uned Plismona’r Ffyrdd: “Rydym yn apelio am dystion a dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth neu a welodd y gwrthdrawiad gysylltu gyda ni yn syth.

“Roedd y Transporter yn teithio i gyfeiriad Corwen a’r beiciwr i’r cyfeiriad arall pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad wrth gyffordd yr A5 gyda’r B4501.

“Yn anffodus bu farw’r beiciwr yn lleoliad y ddamwain ac mae ein cydymdeimlad ni gyda’i deulu.”

Mae’r heddlu’n apelio am dystion a dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu gydag Uned Plismona’r Ffyrdd ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod V102750.