Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud fod angen i’r “genedl gyfan berchnogi’r iaith” os ydi’r Llywodraeth am lwyddo gyda’r targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Wrth lansio’r strategaeth mae Llywodraeth Cymru wedi amlygu tair thema i’w dilyn dros y 33 mlynedd nesaf sef – cynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg, cynyddu’r defnydd o’r iaith a chreu amodau ffafriol.

Maen nhw hefyd am weld y canran o’r boblogaeth sy’n siarad Cymraeg bob dydd ac yn medru siarad mwy nag ychydig eiriau, yn codi o 10% i 20% erbyn 2050.

Addysg

O ran addysg mae Llywodraeth Cymru am sicrhau bod o leiaf 70% o ddysgwyr yn gallu dweud erbyn 2050 eu bod yn gallu siarad Cymraeg erbyn iddyn nhw adael yr ysgol.

Fe fyddan nhw am wed 150 yn fwy o grwpiau meithrin yn cael eu sefydlu dros y ddegawd nesaf ynghyd â chodi’r ganran o bob grŵp blwyddyn ysgol sy’n cael addysg cyfrwng Cymraeg i 30% erbyn 2031, ac yna i 40% erbyn 2050.

Maen nhw hefyd am gynyddu’r nifer o athrawon cynradd sy’n gallu addysgu drwy’r Gymraeg o 2,900 i 3,900 erbyn 2031; ac i 5,200 erbyn 2050.

O ran athrawon uwchradd, y targed yw ei godi o 1,800 i 3,200 erbyn 2031; ac i 4,200 erbyn 2050.

Maen nhw hefyd am ddenu mwy o athrawon i ddysgu’r pwnc ‘Cymraeg’ a diwygio addysg a sgiliau ôl-16 i gynnwys mwy o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Defnydd o’r Gymraeg

O ran cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu adolygu’r ddeddfwriaeth sy’n cefnogi’r Gymraeg ynghyd ag “arwain drwy esiampl” gan gynyddu’r defnydd yn “ein gweithlu ein hunain.”

Byddan nhw’n creu ‘amodau ffafriol’ drwy sicrhau datblygiad economaidd, gwell technolegau iaith a datblygu rhaglen genedlaethol i wella ymwybyddiaeth o ddwyieithrwydd.

“Bwriadol uchelgeisiol”

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi cydnabod fod y targed yn un “[f]wriadol uchelgeisiol” gan ychwanegu bod “heriau o’n blaenau, ond heb os gallwn eu hwynebu gan wybod bod sail gadarn eisoes i’r gwaith”.

“I lwyddo, ry’n ni angen i’r genedl gyfan berchenogi’r iaith,” meddai.

Ac mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies, wedi dweud ei fod yn “hyderus” y bydd y cynllun “yn ein gosod ar y llwybr cywir i gynyddu nifer y siaradwyr, yn ogystal â’r defnydd sy’n cael ei wneud o’r iaith yn y gymuned, y gwaith a’r cartref.”