Logo Llenyddiaeth Cymru
Mae sefydliad sy’n ariannu Llenyddiaeth Cymru wedi beirniadu adroddiad annibynnol sy’n rhoi’r corff cenedlaethol o dan y lach.

Mewn datganiad mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn nodi eu bod yn “hynod siomedig ar ansawdd yr adroddiad.”

Maent yn ychwanegu fod yr adroddiad yn “darparu dadansoddiad rhannol ac sy’n anghyson yn ei feirniadaeth.”

Yr adroddiad

Cafodd yr ‘Adolygiad Annibynnol o Gefnogaeth i Gyhoeddi a Llenyddiaeth yng Nghymru’ ei gyhoeddi ym mis Mehefin ar ôl cael ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r adroddiad, dan arweinyddiaeth Medwin Hughes, yn cyfeirio at broblemau o ran cynllunio, llywodraethu, rheoli a gwario o fewn Llenyddiaeth Cymru.

Mae’n awgrymu y dylai Cyngor Llyfrau Cymru gymryd rhai o gyfrifoldebau Llenyddiaeth Cymru gan gynnwys – rheolaeth am gystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn, bwrsariaethau, gwyliau llenyddol, Llenorion ar Daith a’r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobol ifanc.

‘Simsan’

Ond mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn amheus o’r cynnig hwn gan ddweud nad oes “unrhyw werthusiad o’i fanteision nac unrhyw asesiad o’i werth am arian.”

“Mae cryfderau lu gan y Cyngor Llyfrau, ond nid yw’r adroddiad yn cynnwys unrhyw asesiad o ran a yw’r newidiadau penodol hyn yn debygol o weithio,” meddai’r datganiad.

“Mae hyn yn sail digon simsan ar gyfer cyflwyno newid mor radical.”

Anghytuno â’r portread

Mae’r Cyngor hefyd yn nodi eu bod yn anghytuno â phortread yr adroddiad o Lenyddiaeth Cymru “fel sefydliad sy’n gwegian ar ddibyn argyfwng, ac nad yw’n ffit i gael cyllid cyhoeddus.”

Dywedodd Cadeirydd Llenyddiaeth Cymru, Damian Walford Davies, yr wythnos diwethaf fod yr adroddiad yn un “gwallus ac anwybodus.”

Er hyn, mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi dweud y byddan nhw’n “parchu” a chydweithio â Llywodraeth Cymru i “gytuno ar gynigion ymarferol a fforddiadwy” ac yn cyflwyno ymateb cyflawn i’r Llywodraeth.