Mae banc bwyd wedi cael ei sefydlu i helpu anifeiliaid yn Sir Ddinbych.
Mae wedi ei sefydlu gan Marjorie Summerfield, sy’n gyfrifol am Gymdeithas Les Achub Anifeiliaid Dyserth, y gymdeithas gyntaf o’i math yn yr ardal.
Mae hi hefyd yn bennaeth ar filfeddygfa.
Y banc bwyd
Dywedodd y byddai’r gwasanaeth newydd yn ddibynnol ar onestrwydd pobol ac na fyddai prawf moddion yn cael ei gynnal cyn rhoi cymorth i bobol.
Bydd modd cyfrannu at y banc bwyd mewn mannau arbennig yn Tesco a Dudley & Friends ym Mhrestatyn.
Bydd y prosiect hefyd yn croesawu gwirfoddolwyr i roi trefn ar gyfraniadau a mynd â bwyd allan i bobol sy’n methu mynd i’r banc bwyd.