Wrth i’r gwaith o adeiladu canolfan newydd BBC Cymru yng nghanol Caerdydd barhau, mae’r darlledwr wedi cyhoeddi partneriaeth newydd gyda Stadiwm Principality, ynghyd â chynllun newydd i alluogi hyd at 250 o bobol i ddysgu mwy am weithio i’r Gorfforaeth.

Fe fydd ceblau ffibr optig yn cael eu gosod rhwng pencadlys newydd BBC Cymru yn Sgwâr Canolog Caerdydd a Stadiwm Principality.

Bydd y ceblau’n sicrhau bod ansawdd y darlledu’n gwella wrth i luniau gael eu bwydo’n ôl yn uniongyrchol i’r ganolfan ddarlledu, a bydd lluniau ar gael yn gynt i dimau newyddion a chwaraeon BBC Cymru.

Fe fydd y ganolfan newydd hefyd yn dibynnu ar dechnoleg y we o’r radd flaenaf, a bydd y gwaith o’i datblygu’n dechrau fis Ebrill y flwyddyn nesaf.

Bydd staff y BBC yn dechrau symud i’r ganolfan newydd erbyn hydref 2019.

Swyddi newydd

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd BBC Cymru eu buddsoddiad mwyaf mewn cynnwys ers 20 mlynedd, sy’n arwain at greu 40 o swyddi newydd, gan gynnwys 25 o swyddi i newyddiadurwyr a gohebwyr.

Fe fydd cyfleoedd hefyd i 250 o bobol dan hyfforddiant dros y ddwy flynedd nesaf, gan gynnwys 20 o swyddi llawn amser dan hyfforddiant a phrentisiaethau.

Bydd y rhan fwyaf o’r swyddi’n canolbwyntio ar ddenu pobol o gefndiroedd nad ydyn nhw’n cael eu cynrychioli’n eang.

‘Adeiladu gyrfaoedd i’r dyfodol’

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies: “’Da ni’n adeiladu gyrfaoedd i’r dyfodol. Fe fydd y cyfleoedd ychwanegol ar gael o flwyddyn nesaf sy’n golygu y bydd sgiliau’r gweithlu hyd yn oed yn gryfach wrth i ni adleoli i’r Sgwâr Canolog. Wedi ei gyfuno gyda thechnoleg flaengar, fe fydd yn le apelgar iawn i weithio.

“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol gan BBC Cymru sy’n creu 250 o gyfleoedd hyfforddi, gan roi blas go iawn i’r rheiny sydd efallai heb gysidro gyrfa gyda ni yn y gorffennol gael gweld sut ‘da ni’n gweithio a dod i adnabod y sefydliad.”