Protestwyr ym Môn (Llun: Pwyllgor Môn Unllais Cymru)
Daeth protestwyr ynghyd ar Bont Britannia brynhawn ddoe i ddangos eu dicter ynghylch cynlluniau’r Grid Cenedlaethol i osod peilonau ym Môn.

Cafodd baneri eu harddangos dros yr A55 ger y bont yn dilyn protest gwarchae ger mynedfa safle’r Grid Cenedlaethol bythefnos yn ôl.

Mae’r protestwyr yn anfodlon fod rhes o beilonau’n anharddu’r mynediad i Fôn dros afon Menai.

‘Gwarthus’

Dywedodd un o’r protestwyr lleol, Cheryl Weaver: “Bydd y protestio yn parhau nes bydd y Grid yn gwrando ar ein hadborth nad ydym am res arall o beilonau ar draws Ynys Môn.

“Mae’n warthus fod monopoli preifat yn cael anwybyddu barn y cyhoedd sydd wedi ei fynegi’n ddemocrataidd drwy ein cynrychiolwyr.

“Er mwyn arbed ein hamgylchedd a dyfodol ein diwydiant twristaidd a ffermio, dim ond protestio sydd ar ôl i ni bellach.”

Cefnogaeth leol

Ychwanegodd: “Roedd y gyrrwyr ceir ar yr A55 yn canu corn, codi llaw, a fflachio eu cefnogaeth, sy’n dangos fod y cyhoedd yn hollol gefnogol i’r ymgyrch yma.

“Yn lleol rydym eisoes wedi casglu 4000 o lofnodion deiseb ar bapur a digidol, ac rwy’n annog unrhyw un sy’n caru Môn i arwyddo’r ddeiseb ‘Anglesey Says No to Pylons’ ar safle 38degrees.org.uk.

“Hefyd, mae gennym safle facebook ‘Anglesey Says No To Pylons’ i bawb sydd am gefnogi ein hymgyrch.”

Cynlluniau’r Grid Cenedlaethol

Mae’r Grid Cenedlaethol wedi awgrymu y gallai eu cynlluniau ar gyfer y peilonau newid, wrth iddyn nhw ystyried y posibilrwydd o osod ceblau tanddaearol a thanforol.

Ond mae’r protestwyr yn anfodlon ynghylch diffyg proses ymgynghori, gyda chefnogwyr yr ymgyrch yn cynnwys yr Aelod Seneddol Llafur Albert Owen, Aelod Cynulliad Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth, arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn Llinos Medi Huws a chadeirydd Pwyllgor Môn Unllais Cymru Dafydd Idriswyn Roberts.

‘Sgandal’

Dywedodd Dafydd Idriswyn Roberts: “Mae yma ymdrech i fygu democratiaeth – mae adborth Môn i dri ymgynghoriad yn berffaith eglur: “Dim Peilonau” gan y bydd yn costio gormod i’r ynys.

“Mae’n sgandal fod cwmni rhyngwladol yn ceisio am sêl bendith llywodraeth Prydain i anrheithio ein tir yn erbyn buddiannau cymdeithasol ac economaidd Môn.

“Ac wrth drafod costau, unig ystyriaeth y Grid yw costau offer a pheirianneg – nid ydynt yn amgyffred gwerth, megis gwerth Môn i’w phobl a’i hymwelwyr.

“Felly mae’r protestiadau am barhau er mwyn dangos gwerth ein hamgylchedd i ni ym Môn, ac os nad yw’r Grid Cenedlaethol am wrando, teg disgwyl i Ofgem a’r Llywodraeth yn Llundain wrando arnom.”