Cafodd cystadleuwyr rhyngwladol eu croesawu i Eisteddfod Llangollen yn ystod ‘Dathliad Rhyngwladol’ yr ŵyl neithiwr.

Roedd cynrychiolwyr o 29 gwlad yn bresennol, a bu grwpiau o bedwar ban y byd yn perfformio  ar lwyfan y Pafiliwn Brenhinol Cenedlaethol.

Ymysg y grwpiau wnaeth berfformio oedd Only Boys Aloud, Côr Myfyrwyr Jinggaswara a grŵp dawns o Ysgol Uwchradd Al-Izhar Pondok Labu yn Indonesia.

Hefyd mi wnaeth Llywydd Eisteddfod Llangollen, Terry Waite, draddodi ei gyfarchiad blynyddol gan gynnig neges o heddwch a goddefgarwch.

“Dathliad penigamp”

“Mae’r dathliad rhyngwladol o hyd yn uchafbwynt yn ystod wythnos yr Eisteddfod Llangollen, a doedd eleni ddim gwahanol,” meddai Cyfarwyddwr Cerdd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, Eilir Owen Griffiths.

“Roedd y noson yn llawn o gyffyrddiadau hyfryd, gyda chenhedloedd gwahanol yn dod at ei gilydd ar y llwyfan. Fe welwyd diwylliannau, ieithoedd, traddodiadau, a steiliau cerddorol yn uno i greu dathliad o safon benigamp oedd wir yn cyfleu neges ryngwladol yr ŵyl.”