Damian Walford Davies
Mae cadeirydd y corff cenedlaethol sy’n hyrwyddo llenyddiaeth yng Nghymru wedi lambastio adroddiad annibynnol sy’n ei feirniadu.

Dywed Yr Athro Damian Walford Davies fod adroddiad yr adolygiad i gyhoeddi a llenyddiaeth yng Nghymru wedi portreadu darlun “[g]wallus ac anwybodus” o Lenyddiaeth Cymru.

Yn ôl y Cadeirydd, nid yw canfyddiadau’r adolygiad, a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, yn seiliedig ar dystiolaeth ac mae yn dangos “diffyg gwaith ymchwil”.

Cafodd yr adolygiad, dan arweinyddiaeth Yr Athro Medwin Hughes sy’n Is-Ganghellor Prifysgol Cymru’R Drindod Dewi Sant, ei gynnal i asesu’r cymorth y mae llenyddiaeth a’r diwydiant cyhoeddi yn ei gael yng Nghymru.

Yn yr adolygiad mae’r panel yn dod i’r casgliad bod gan Lenyddiaeth Cymru broblemau o ran cynllunio strategol, gosod blaenoriaethau, llywodraethu, rheoli risg a gwario.

O ganlyniad, mae’n bosib y gallai rhai o swyddogaethau’r corff gael eu symud i ddwylo Cyngor Llyfrau Cymru <http://golwg360.cymru/newyddion/cymru/266949-cyngor-llyfrau-i-gymryd-rhai-o-swyddogaethau-llenyddiaeth-cymru>.

“Mae’n fater o bryder (cyhoeddus) difrifol fod y Panel wedi cyflwyno darlun o Lenyddiaeth Cymru – a’r sector ehangach – sydd mor greiddiol wallus ac anwybodus,” meddai Damian Walford Davies.

“Nid yw dadansoddiad anesboniadwy wrthwynebus y Panel o Lenyddiaeth Cymru yn seiliedig ar dystiolaeth.”

Trafod â Llywodraeth Cymru

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi siarad â Llywodraeth Cymru i amlygu’r rhannau o’r adroddiad y maen nhw’n credu sy’n wallus.

“Ar ben hynny, mae’n destun siom enbyd bod rhai sylwebwyr diwylliannol (a allai’n rhesymol fod wedi bod yn fwy amheugar), wedi gwneud y penderfyniad annoeth i gymryd y darlun o Lenyddiaeth Cymru a geir yn yr Adroddiad fel ffaith,” ychwanegodd Damian Walford Davies.

“Mae’n siŵr y byddan nhw yn teimlo’r angen i ailystyried hynny yng ngoleuni’r dystiolaeth.”

 

“Digwyddiad annerbyniol” gyda’r panel

Nid oedd Damian Walford Davies ei hun wedi ymddangos gerbron y panel i roi tystiolaeth – dywed ei fod wedi ceisio trefnu gwneud hynny ar ddau achlysur.

Ond “yn dilyn digwyddiad hollol annerbyniol”, meddai, mewn cyfarfod rhwng y panel â swyddogion eraill Llenyddiaeth Cymru, dywedodd na fyddai’n mynychu’r panel ar “sail egwyddor”.

Gofynnodd golwg360 i Lenyddiaeth Cymru am ragor o wybodaeth ynghylch y digwyddiad hwn lle dangosodd un aelod “[f]ethiant i gydymffurfio â safonau proffesiynol”, yn ôl Damian Walford Davies, ond dywed llefarydd nad oedd mewn safle i wneud sylw.

“Pwysleisiais hefyd, cyn belled ag yr oedd y dystiolaeth a roddwyd i’r Panel gan swyddogion Llenyddiaeth Cymru yn y cwestiwn, eu bod nhw a minnau yn siarad ag un llais,” meddai yn ei ddatganiad.

“Derbyniodd Llenyddiaeth Cymru ymddiheuriad.”

Yn y diwedd, fe gytunodd Damian Walford Davies i gyfarfod ond dywed bod Medwin Hughes wedi dweud nad oedd dyddiad arall ar gael.