Mae heddlu wedi cadarnhau bod corff dyn 22 oed wedi cael ei ganfod yn Afon Teifi neithiwr.
Cred Heddlu Dyfed Powys bod y dyn lleol wedi cwympo mewn i’r afon ger Stryd y Bont yng Nghastell Newydd Emlyn.
Mae ei deulu agosaf wedi cael gwybod ac mae ei gorff wedi ei adnabod yn ffurfiol.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r safle am 12.33 ddydd Iau a bu hofrennydd yn chwilio am y corff yn ardal yr afon.
Dyw’r heddlu ddim yn trin y farwolaeth fel un amheus.