Yr Hen Lyfrgell (Llun Parth Cyhoeddus)
Mae’r ganolfan Gymraeg yng nghanol Caerdydd wedi cael ei beirniadu am “ddwyieithrwydd diangen” mewn ymateb i’r arwydd ‘helo/hello’ sy’n croesawu ymwelwyr i’r caffi bar newydd.

Ac fe gafodd yr Hen Lyfrgell ei beirniadu ymhellach ar ôl ymateb ar Twitter drwy ddweud mai “gofod dwyieithog” yw’r ganolfan.

Mi wnaeth un person adweithio i’r neges honno yn dweud “Ers pryd? Sôn am golli ffordd.”


Canolfan Gymraeg

Mewn datganiad wrth golwg360 dywed y llefarydd, “Rôl Yr Hen Lyfrgell fel Canolfan y Gymraeg yng Nghaerdydd yw hyrwyddo a dangos yr iaith Gymraeg ar waith i bobol y ddinas ac i ymwelwyr.” “Mae’r Caffi Bar yn cael ei redeg gan gwmni Milk&Sugar dan enw Llaeth&Siwgr ac yn darparu bwyd a diod gyda gwasanaeth dwyieithog croesawgar i bawb,” meddai datganiad llawn yr Hen Lyfrgell. “Rydym yn falch o weld Milk&Sugar fel partner newydd a gobeithio y bydd mwy o bobol yn galw I mewn i fwynhau a defnyddio pob agwedd o’r ganolfan.”

Cefndir

Mae’r caffi bar newydd ail-agor ar ôl misoedd o fod ynghau yn dilyn trafferthion ariannol. Mae’r ganolfan yn rhan o un o brif bolisïau iaith y Llywodraeth – yn un o rwydwaith a grëwyd  pan oedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn gyfrifol am y portffolio. Roedd y ganolfan wedi derbyn cefnogaeth o £400,000 er mwyn ei sefydlu yn yr adeilad yn yr Ais yng nghanol y ddinas.