ae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn damwain angheuol rhwng Magwyr a Llanwern tua 9.30yh nos Fercher (Gorffennaf 5).

Fe fu car Audi TT coch mewn gwrthdrawiad â beic ar briffordd yr A4810.

Bu farw dyn 28 oed yn y fan a’r lle.

Mae Heddlu Gwent yn gofyn i unrhyw un oedd yn teithio ar y ffordd tua’r adeg honno i gysylltu ar y rhif 101.