Fe fydd teithiau awyr o Gaerdydd i Fôn yn parhau yn y tymor hir, yn ôl y Prif Weinidog Cymru.

Gwasanaeth Awyr Mewnol Cymru yw’r ffordd gyflymaf o deithio rhwng y de a’r gogledd, ac mae Carwyn Jones yn dweud y bydd y gwasanaeth yn dal i gario pobol rhwng Y Fali a’r Rhws – a hynny yn dilyn adolygiad o’r ddarpariaeth yn 2016.

Mewn datganiad, dywedodd Carwyn Jones ei bod yn “bleser” cyhoeddi y bydd y gwasanaeth yn parhau. Ond fe gyfeiriodd yn yr un datganiad at “anawsterau yn y gorffennol – oherwydd gweithredwyr blaenorol, yn fwy na dim”.

“Rydym bellach yn edrych ar sut y gellid datblygu’r llwybr dros y pedair blynedd nesaf, a thu hwnt, i helpu i roi hwb i economi Cymru,” meddai Carwyn Jones.

“Bydd y broses gystadleuol o ddod o hyd i weithredwr hirdymor ar gyfer y gwasanaeth yn dechrau yn yr ychydig fisoedd nesaf.

“Yn y cyfamser, bydd y gweithredwr presennol, Eastern Airways, yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth, gan sicrhau gwasanaeth di-dor i deithwyr,” meddai Carwyn Jones wedyn.