Daeth rêf anghyfreithlon yn cynnwys mwy na chant o bobol o bob cwr o wledydd Prydain i ben y penwythnos hwn yn dilyn gorchymyn gan Heddlu Dyfed Powys.

Cafodd yr heddlu wybod am y rêf yn ardal cwm Grwyne Fawr ger Aberhonddu tua 8.30 y bore dydd Sul, (Gorffennaf 2).

“Gall rêfs anghyfreithlon achosi pryder difrifol i’r gymuned leol ac fe allen nhw fod yn hynod beryglus,” meddai’r swyddog Cheryl Rudge.

“Yn yr achos hwn, roedd y grŵp yn gydsyniol iawn a llwyddom i gael yr hyn oedd yn teimlo fel ymgysylltiad cadarnhaol gyda nhw am y peryglon o gymryd cyffuriau yn enwedig os oes angen cymorth meddygol arnyn nhw mewn ardal mor bellennig,” meddai.

Ychwanegodd yr heddwas Billy Dunne – “gallaf sicrhau’r cymunedau lleol y bydd yr heddlu yn cymryd camau priodol i atal crynoadau anghyfreithlon.”