Llun: PA
Bu cwymp o 11% yn nifer y damweiniau ffordd lle cafodd pobol eu hanafu’r llynedd, yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru.

Yn ystod 2016 mi wnaeth yr heddlu yng Nghymru gofnodi 4,921 o ddamweiniau ar y ffyrdd lle cafodd pobol eu hanafu, sy’n gwymp o 622 o gymharu â 2015.

Bu farw 103 o bobol ar ffyrdd Cymru’r llynedd – cwymp o ddau o gymharu â 2015.

Targedau

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targedau er mwyn lleihau nifer y bobol sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol (KSI) ar ffyrdd Cymru erbyn 2020, o gymharu â chyfartaledd 2004 hyd at 2008.

Am y tro cyntaf mae Llywodraeth Cymru wedi cwrdd â’r targed KSI ar gyfer pobol ifanc sef cwymp o 40%.

Er hynny dim ond cwymp o 1% a fu yn nifer y marwolaethau ac anafiadau difrifol i yrwyr beiciau modur, er mai cwymp o 25% yw targed KSI y Llywodraeth.