Cyngor Powys
Mae cabinet Cyngor Powys wedi pleidleisio o blaid cadw’r ffrwd Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu.
Bwriad y Cyngor yn wreiddiol oedd cau’r ffrwd Gymraeg yn yr ysgol a chanoli’r ddarpariaeth 16 milltir i ffwrdd o’r safle presennol, yn Llanfair ym Muallt.
Yn ystod cyfarfod bore heddiw bu’r cabinet yn trafod argymhelliad i wrthod y cynnig i gau’r ffrwd ar Awst 31 ac i’w chadw ar y safle yn ei ffurf bresennol.
Dadl yr argymhelliad oedd y byddai cadw’r ffrwd Gymraeg yn diogelu addysg cyfrwng Cymraeg yn Aberhonddu ac y byddai’n cefnogi targed Llywodraeth Cymru i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Pleidleisiodd wyth aelod o’r cabinet o blaid yr argymhelliad ac mi wnaeth dau gynghorydd ymatal: un o’i wirfodd ei hun a’r llall oherwydd iddo drafod y mater yn y gorffennol.
Pryderon rhieni
Pleidleisiodd cabinet y Cyngor o blaid cau’r ffrwd ym mis Mawrth er gwaethaf pryderon rhieni y gallai’r penderfyniad arwain at lai o bobol yn astudio drwy’r Gymraeg.
Daw tro pedol heddiw gan gabinet o gynghorwyr newydd a gafodd eu hethol yn etholiadau lleol mis Mai.