Mae Heddlu’r Gogledd, sy’n ymchwilio i farwolaeth amheus dynes yn Y Fflint, wedi rhyddhau dyn a oedd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Mae’r dyn lleol yn parhau “o dan ymchwiliad” meddai’r heddlu.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i eiddo yn Rhodfa Windsor, y Fflint am 2.50yb ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 1, wedi i gorff dynes gael ei ddarganfod.

Roedd y ddynes yn dod o’r ardal leol ac yn ei 40au.

Roedd yr amgylchiadau ynglŷn â’r modd y cafodd corff y ddynes ei ddarganfod wedi arwain at arestio dyn lleol, 50 oed ar y safle, ar amheuaeth o lofruddio. Ar ôl cael ei holi gan yr heddlu cafodd ei ryddhau bnawn dydd Sul ond mae’n parhau “o dan ymchwiliad.”

Mae teulu’r ddynes wedi cael gwybod ac yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Dywedodd y Ditectif Uwch Arolygydd, Arwyn Jones bod ganddyn nhw “bryderon sylweddol am yr anafiadau” i gorff y ddynes yn sgil archwiliad post-mortem a’u bod yn cynnal ymchwiliad i geisio darganfod amgylchiadau ei marwolaeth.

“Mae ditectifs yn siarad â chymdogion ac eraill yn y gymuned leol ond rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn ardal Rhodfa Windsor rhwng Mehefin 30 ac oriau man y bore ddydd Sadwrn, 1 Gorffennaf. Mae ein meddyliau gyda theulu’r ddynes yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu trwy ffonio 101 gan nodi’r cyfeirnod  RC 1709 7490.