Mae Aelod Cynulliad Llafur wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu strategaeth economaidd ar gyfer cefn gwlad er mwyn ymateb i heriau Brexit a’r rhanbarthau dinesig.

Mewn adroddiad sydd wedi ei gyhoeddi heddiw mae’r AC Eluned Morgan, cadeirydd y Fforwm Datblygu Gwledig, yn dweud bod angen sefydlu cynllun “ar frys” er mwyn diogelu ffyniant cefn gwlad Cymru.

Mae’r adroddiad yn cynnig sawl argymhelliad gan gynnwys sefydlu comisiynydd gwledig a chyflwyno gwelliannau i isadeiledd rhwng de a gogledd Cymru.

Hefyd caiff sawl cynllun peilot eu hargymell gan gynnwys cynllun i ddysgu Saesneg i bobol o Tsiena a chynllun fyddai’n gorfodi i gynghorau ddarparu pwyntiau pŵer ar gyfer cerbydau trydanol.

 “Cynllun clir”

“Mae’n hanfodol bod gyda ni gynllun clir lle mae’n glir pwy sydd yn gyfrifol am bob maes,” meddai Eluned Morgan.

“Byddai’n rhaid gweithredu’r cynllun ar lefel lleol a dylwn annog cydweithrediad â’r sector breifat. Ond, wrth gwrs Llywodraeth Cymru fyddai â chyfrifoldeb dros weithredu’r cynllun yn iawn.”

“Diogelu diddordebau gwledig”

“Rydym yn bresennol yn adnewyddu ein blaenoriaethau economaidd ac fel rhan o’r gwaith yma rydym yn ceisio diogelu diddordebau gwledig wrth i Gymru baratoi ar gyfer dyfodol tu allan i’r Undeb Ewropeaidd,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.