Y Cynghorydd Elwyn Vaughan o Blaid Cymru
Mae cynghorydd Plaid Cymru wedi beirniadu penderfyniad Cyngor Powys i wario miloedd o bunnau ar gar i’r Cadeirydd newydd, Dai Davies.

Yn ôl Elwyn Vaughan, fe gostiodd y car £37,000 – ond mae’r cyngor yn mynnu mai £28,804 ydi cost y car.

Mae llefarydd Cyngor Powys yn dweud bod angen prynu cerbyd newydd i’r Cadeirydd am ei fod yn anabl.

“Oherwydd ei anabledd doedd y Cadeirydd methu gyrru’r car oedd eisoes ar gael ac felly roedd yn rhaid archebu car newydd,” meddai’r llefarydd.

“Gwastraff arian llwyr”

Yn ôl y Cynghorydd Plaid Cymru Elwyn Vaughan mae’r penderfyniad i wario ar gar newydd “yn wastraff arian llwyr” ac yn “sarhaus i bobol Powys”, ac mae’r cynghorydd yn awgrymu y dylai Dai Davies fod wedi defnyddio ceir sydd eisoes ar gael.

Audi A6 SE Executive 2.0 TDi Ultra ydy’r cerbyd dan sylw – “car moethus” yn ôl Elwyn Vaughan.

“Yn ystod cyfnod o brinder arian, toriadau a chymunedau yn colli eu gwasanaethau, mae gweithredoedd fel hyn yn ansensitif, sarhaus ac yn dangos anwybodaeth o’r heriau mae cymunedau yn wynebu,” meddai Elwyn Vaughan.

“Mae gweithredoedd fel yr un yma yn enghraifft o hunanbwysigrwydd sydd wedi mynd yn rhemp  ac mae angen i ni geisio newid yr agwedd yma.”