Mi fydd miloedd o bobol o bob cwr o’r wlad yn heidio i brifddinas Cymru heddiw wrth i benwythnos terfynol gŵyl Tafwyl gael ei chynnal yng Nghaerdydd.

Mae’r ŵyl bellach wedi ehangu i fod yn ddigwyddiad naw diwrnod o hyd ac mae gweithgareddau ymylol wedi bod yn cael eu cynnal yn y brifddinas gydol yr wythnos.

Yn ôl trefnwyr yr ŵyl, Tafwyl eleni fydd y mwyaf erioed gyda mwy o lwyfannau cerddoriaeth byw a stondinau nag erioed o’r blaen – mae’n debyg bod 50 o stondinau bwyd, diod a chelf a chrefft yno.

Mi wnaeth tua 36,000 o bobol ymweld y llynedd a gan fod yr ŵyl wedi symud o Gastell Caerdydd i gaeau Llandaf Eleni mae’r trefnwyr wedi medru ehangu Tafwyl  ymhellach.

Un o brif atyniadau’r ŵyl yw’r arlwy eang o gerddoriaeth Cymraeg ac ymysg y perfformwyr fydd rhai o artistiaid gorau’r Sîn Roc Gymraeg gan gynnwys Bryn Fôn, Geraint Jarman a Brython Shag.

Mae’r trefnwyr yn gallu cynnig arlwy’r ŵyl am ddim diolch i  grant o £20,000 gan Lywodraeth Cymru a £40,000 o nawdd gan fusnesau lleol. Hefyd mae Cyngor Caerdydd wedi cwrdd â’r £50,000 o gostau ar gyfer symud Tafwyl i’w leoliad newydd.

Twf “anhygoel”

Mae’r gyflwynwraig a brodor o Gaerdydd, Elan Evans, wedi bod i bob un ŵyl Tafwyl ers yr un cyntaf yn 2006 ac yn croesawu’r twf “anhygoel”.

“Dw i’n credu fy mod i wedi bod i bob gŵyl Tafwyl,” meddai Elan Evans wrth golwg360. “Roeddwn i’n arfer mynd pan oeddwn i’n fach achos yn amlwg dw i’n ferch o Gaerdydd. Mae Tafwyl wastad wedi bod yn rhan eithaf mawr o fy mywyd.

“Mae’n wych gweld cymaint mae’r ŵyl wedi tyfu. Mae’n beth anhygoel o ystyried gwnaeth yr holl beth ddechrau ym maes parcio tafarn y Mochyn Du. Mae’n boncyrs meddwl bod yr ŵyl wedi troi mewn i ddigwyddiad sy’n denu miloedd.

“Ond i fod yn deg, mae’n adlewyrchu gwaith caled Menter Caerdydd sydd yn trefnu’r ŵyl. Mae’n dyst i’w gwaith caled nhw yn y ddinas.”