Fe bleidleisiodd Gwilym Owen dros adael Ewrop yn y refferendwm flwyddyn yn ôl, oherwydd iddo gael ei argyhoeddi gan ddau wleidydd ifanc yn y 1970au.

Mewn sesiwn holi yn nhafarn Y Glôb ym Mangor nos Iau (Mehefin 29) fe esboniodd colofnydd Golwg fel y cafodd ei ddarbwyllo gan Dafydd Elis-Thomas a Neil Kinnock mai sefydliad annemocrataidd fyddai’r Undeb Ewropeaidd yr oedd y Deyrnas Unedig ar fin ymuno ag o yn 1973.

Dydi ei farn ddim wedi newid mewn 40 mlynedd, meddai, a dyna pam ei fod yn dweud yn agored iddo bleidleisio tros Brexit yn refferendwm Mehefin 23, 2016.

“Am unwaith, o’n i yn y mwyafrif,” meddai Gwilym Owen yn y Glôb neithiwr. “Dau wleidydd ifanc oedd yn dod i mewn i HTV yn aml iawn i wneud rhaglenni i ni, oedd Dafydd Elis-Thomas a Neil Kinnock… ac fe genhadon nhw gymaint efo fi, ac mi lyncais i’r abwyd, nes fy mod i wedi dod i gredu’r abwyd mai sefydliad hollol annemocrataidd fasa Senedd Ewrop.

“Ac os sbiwch chi arno fo heddiw, mae yna 27 o wledydd, a’r rheiny heb lais o gwbwl yn rhediad y lle. Maen nhw’n gadael i griw o fiwrocratiaid – Ewrocratiaid – redeg y sioe, ac mae’r holl benderfyniadau’n cael eu gwneud yn gwbwl annemocratiaidd.

“Rydan ni, ers degawdau, yn anfon Aelodau Seneddol Ewropeaidd yno,”  meddai Gwilym Owen wedyn, “ond os fasa chi’n gofyn i unrhyw un ohonyn nhw be’n union maen nhw wedi’i wneud yn ystod eu gyrfaoedd, mi fyddech chi’n ffeindio ei fod o’n chydig iawn, iawn.”

Mae’n bosib gwylio’r sesiwn holi yn llawn yn fan hyn.