Llyr Gruffydd yn ceisio siarad Cymraeg â Siri ar ei iPad wrth gyflwyno dadl ar dechnoleg a'r Gymraeg Llun: Senedd.tv
Bu dadl fer yn y Cynulliad neithiwr ar yr heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu’r Gymraeg yn yr oes ddigidol.

Llŷr Gruffydd, Aelod Cynulliad Gogledd Cymru, oedd yn cynnal y ddadl gan ddechrau drwy geisio siarad gyda’r meddalwedd llais ar declynnau Apple – Siri.

Mae’n debyg mai dyma’r tro cyntaf i Siri ‘gyfrannu’ at ddadl mewn Senedd unrhyw le yn y byd.

Ceisiodd yr Aelod Cynulliad siarad Cymraeg â Siri, gan ofyn ‘Beth yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru’ a ‘Pwy yw Prif Weinidog Cymru’, ond doedd y teclyn ddim yn deall dim.

Pan ofynnodd i Siri ‘Wyt ti’n deall Cymraeg?’ ateb y llais ar yr iPad oedd “I rather enjoy what I’m doing now.”

Galw am fwy o gefnogaeth gan y Llywodraeth

Mae canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor wedi datblygu meddalwedd yn debyg i Siri o’r enw ‘Macsen’ ond yn ôl Llŷr Gruffydd, mae angen mwy o gefnogaeth i’r prosiect gan Lywodraeth Cymru.

“Mae dadleuon byr yn gyfle i ddenu ymateb gan y Llywodraeth i ryw bwnc mae Aelod unigol eisiau codi,” meddai wrth golwg360.

“Ar ôl i fi ymweld â Chanolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor, lle maen nhw’n gwneud gwaith yn datblygu technolegau iaith, ro’n i’n meddwl bod yna faes fan hyn lle mae arwyddocâd o ran sicrhau bod y Gymraeg yng nghanol y dechnoleg newydd yma.

“Mae’r gwaith mae Canolfan Bedwyr yn gwneud yn dibynnu ar botiau ariannu eitha’ darniog, ddim yn hirdymor, ddim yn strategol mewn unrhyw ffordd.

“Felly byrdwn y neges i’r Llywodraeth yw ble mae’r strategaeth hirdymor ynglŷn â dyfodol y Gymraeg oherwydd mae yna farn bod ieithoedd llai yn gyffredinol yn wynebu difodiant digidol.

“Mae pethau fel Apple Siri, Alexa [teclyn llais Amazon], Google Home, Cortana [ar ffonau Android], dyw’r rheini ddim yn deall y Gymraeg a dyna le mae’r dyfodol.

“Felly mae’n rhaid i’r Gymraeg fod yng nghanol hynny.”

Cyfieithu’r Beibl yn 1588 – ‘angen yr un ymateb’

Dywed ei fod yn disgwyl i Lywodraeth Cymru fod “ar flaen y gad” pan mae’n dod at alw ar y cwmnïau hynny i ddarparu teclynnau Cymraeg a bod angen sicrhau “canolfannau ac arbenigedd i fanteisio a chadw lan â’r dechnoleg yng Nghymru.”

“Dw i’n gwneud y gymhariaeth yn fy nadl i â chyfieithu’r Beibl yn 1588 oedd, ar y pryd, yn cael ei weld yn rhywbeth chwyldroadol, arloesol pan oedd print a chyhoeddi yn dod yn rhywbeth newydd ac roedd y Gymraeg o ganlyniad i hynny yn cael ei gweld fel iaith fodern.

“Dw i’n gweld lefel yr her yr un peth ac mae angen yr un math o ymateb gwleidyddol a’r un ymdrech gan gael y gwaith wedi’i wneud.”

Alun Davies yn ymateb

Wrth ymateb i’r ddadl dydd Mercher, dywed Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, bod yn rhaid gweld yr oes ddigidol fel “cyfle i’r iaith Gymraeg.”

Fe wnaeth gydnabod bod gan Lywodraeth Cymru “rôl i arwain” yn y maes a dywed bod yn “rhaid i bethau newid a bod hynny’n meddwl gwneud pethau mewn ffyrdd gwahanol.”

Dywed bod technoleg yn allweddol i ymrwymiad y Blaid Lafur i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae disgwyl cyhoeddi strategaeth y Gymraeg y Llywodraeth ar sut yn union i wneud hynny ymhen wythnosau.