Mae pobol o bob cwr o Gymru’n parhau i deimlo’n “fodlon” â gwasanaethau cyhoeddus a’u bywydau bob dydd, yn ôl canlyniadau diweddaraf Arolwg Cenedlaethol Cymru.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru 2016-17 ar ei newydd wedd yn rhoi darlun ehangach o lefelau llesiant a boddhad â’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ynghyd â’r materion sy’n wynebu cymunedau lleol.

Yn ôl y canlyniadau, mae 82% o bobl Cymru’n gyffredinol fodlon â’u bywydau.

Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru yn arolwg sy’n cael ei gynnal wyneb yn wyneb gyda dros 10,000 o oedolion 16 oed a throsodd, a ddewiswyd ar hap, ym mhob cwr o Gymru. Defnyddir y canlyniadau gan Lywodraeth Cymru i helpu i wneud Cymru yn lle gwell i fyw.

Dechreuodd yr Arolwg ar ei ffurf wreiddiol yn 2012. O 2016-17 ymlaen, mae’n disodli Arolwg Iechyd Cymru, Arolwg y Celfyddydau yng Nghymru, Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru a’r Arolwg Oedolion Egnïol.

Y prif ganlyniadau

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol 2016-17:

  • Mae 90% o’r ymatebwyr yn dweud eu bod yn fodlon â gofal eu meddyg teulu; 91% yn fodlon â’r gofal a dderbyniwyd yn eu hapwyntiad Gwasanaeth Iechyd diwethaf; a 96% o’r cleifion ysbyty yn teimlo eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch.
  • Mae 90% o rieni yn fodlon ag ysgol gynradd eu plant, ac 85% yn fodlon ag ysgol uwchradd eu plant;
  • 70% yn dweud bod eu profiad o ofal cymdeithasol naill ai’n ardderchog neu’n dda;
  • Mae 66% yn dweud eu bod yn medru ymdopi â’u holl filiau ac ymrwymiadau heb anhawster;
  • 73% yn teimlo bod pobol yn eu hardal leol yn trin ei gilydd ag urddas a pharch;
  • Dywedodd 48% eu bod yn teimlo’n gadarnhaol am y dyfodol;
  • Roedd 80% wedi ymweld â’r awyr agored yn y 12 mis diwethaf;
  • Mae 62% yn cerdded neu feicio i fynd o le i le;
  • Mae 85% o’r boblogaeth yn defnyddio’r rhyngrwyd.

Mae arolwg 2016-17 yn datgelu barn pobol am waith Llywodraeth Cymru ac am iechyd ac addysg, gyda sero’n cyfateb i ‘gwael iawn’ a 10 yn cyfateb i ’da iawn’.

Sgôr cyffredinol Llywodraeth Cymru oedd 5.6; gyda 6.2 ar gyfer iechyd a 6.2 ar gyfer addysg.

Teimlad o berthyn

Llai yn teimlo eu bod yn perthyn i gymuned yng Nghymru erbyn hyn – 72% tro hyn – 82% yn 2014-15

72% eleni yn teimlo bod pobol o gefndiroedd gwahanol yn cyd-dynnu’n dda – 79% yn 2014-15

73% yn teimlo bod pobol yn trin ei gilydd gyda pharch ac ystyriaeth, o gymharu â 79% y tro diwethaf

Tlodi

O ganlyniadau’r arolwg, 1% o bobol Cymru sy’n defnyddio banciau bwyd [hyn yn gyfystyr a thua 30,000 o’r boblogaeth] – y tro cyntaf i’r cwestiwn hwn gael ei holi.

Yr iaith Gymraeg

20% yn gallu siarad Cymraeg – 11% yn rhugl a 12% yn gwneud hynny’n ddyddiol;

Mwy â rhyw fath o allu yn y Gymraeg – 9% y tro hwn [4% yn 2014-2015].