Y brotest ym Mhentir ger Bangor heddiw
Mae arweinwyr gwleidyddol Môn wedi ymuno â’r hanner cant o brotestwyr tu allan i orsaf drydan Pentir ger Bangor y bore yma i wrthwynebu’r ymgais i godi ail res o beilonau ar yr ynys.

Yn eu plith mae Rhun ap Iorwerth AC, Albert Owen AS a Llinos Medi Huws, arweinydd Cyngor Môn.

Protestio yn erbyn cynlluniau’r Grid Cenedlaethol i godi peilonau i gysylltu Wylfa Newydd â gorsaf drydan Pentir yng Ngwynedd y maen nhw, a daw hyn wedi i Gyngor Gwynedd bleidleisio yn erbyn y cynlluniau ym mis Rhagfyr.

“Beth ni eisiau yw i’r Grid Cenedlaethol ddechrau gwrando ar y bobol, a beth maen nhw eisiau,” meddai un o’r ymgyrchwyr, Cheryl Weaver, wrth golwg360.

“Mae’n mynd i effeithio ffermwyr, tir, eiddo pobol ac iechyd a lles – ni wedi dod i ddeall fod lefelau uchel o radon yn Ynys Môn ac mae ychwanegu maes electro magnetig at hynny’n ddifrifol,” meddai.

‘Dafydd a Goliath’

Mae ymgyrchwyr ‘Na i Beilonau Ynys Môn’ yn ffafrio cynllun i osod ceblau tanddaearol, ac mae cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yn neuadd Tre-ysgawen, Capel Coch nos Fercher (28 Mehefin).

Mae mwy na 600 o bobol wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu’r cynlluniau ac yn ôl Cheryl Weaver – “mae gwledydd eraill fel yr Almaen yn gosod ceblau o dan ddaear, ac mae’n ymddangos ein bod ni’n bell y tu ôl.”

“Mae hwn yn annhegwch ac yn frwydr ar raddfa Dafydd a Goliath, ond mewn undeb mae nerth ac mi fydd Môn yn sefyll yn gadarn,” ychwanegodd.

‘Anwybyddu adborth’

“Yn hollol drahaus, mae’r cwmni yma wedi anwybyddu adborth y cynghorau cymuned, tref a sir; yn ogystal â’r Aelodau Cynulliad, y Cynulliad, a’r Aelodau Seneddol sy’n cynrychioli’r ardal yn y senedd,” meddai Dafydd Idriswyn Roberts o Unllais Cymru Môn.

“Mae’n gywilyddus fod y Grid yn cael rhwydd hynt i fanteisio ar wendidau’r system gan orfodi ardal dlawd fel Môn i sybsideiddio ynni gweddill y Deyrnas Gyfunol,” ychwanegodd.