Mr Phormula
Ar ei albym newydd, Llais, mae Mr Phormula yn canu am golli teulu ac wedi dweud wrth gylchgrawn Golwg bod rapio am bwnc mor ddyrys wedi ei helpu drwy gyfnod anodd.

Ar y gân ‘Cwestiynau’ mae Mr Phormula yn rapio:

‘Roedd 2016 yn uffarn o flwyddyn – wnes i golli pump aelod o fy nheulu

Sut wyt ti’n aros yn bositif ar ôl hynny?

Welish i Dad yn diflannu yn ei salwch

Cymeriad clên ar goll yn yr anialwch

Enaid yn cario ymlaen, corff rŵan yn llwch

A wna i byth anghofio’r dyddiau da, yn Llan ac Amlwch.’

Roedd cael creu cerddoriaeth yn fendith ar adeg anodd yn ei fywyd, meddai Mr Phormula.

“Mae miwsig, ers i fi gychwyn gwneud cerddoriaeth, mae o’n rhywbeth therapiwtig.

“A dw i’n ffeindio fo’n anodd weithiau i siarad am bethau. Mae yn well genna i wneud o drwy caneuon. Dw i’n teimlo yn well o gael o allan, ac wedyn geith pobol wneud beth bynnag maen nhw eisiau efo fo…

“Y miwsig ydy outlet fi, mewn ffordd… ac yn amlwg, roedd hi’n anffodus bo fi wedi colli teulu.

“Ond wnaeth o wthio fi i fod yn fwy dedicated i be’ dw i’n wneud, mewn ffordd. A’r canlyniad ydy’r albym yma. Mae yn eithaf diddorol, sut mae bywyd yn gwneud hynny. A dyna fo.”

Ehangu’r efengyl

Ar ganeuon Llais mae Mr Phormula wedi ceisio cyfuno’r hip-hop a’r rap gydag alawon bachog, er mwyn bod yn fwy “accessible” i bobol sydd ddim yn gwrando ar rap a hip hop fel arfer.

Un arall sy’n canu ar yr albym newydd yw Alys Williams. Mae hi i’w chlywed yn canu’r gytgan ar ‘Lle Ma Dy Galon’, cân hynod o catchy sy’n clodfori Cymru – ‘Dw i’n hogyn adra, gwlad y medra… awyr iach, ynghanol caea’, lle dw i’n rhydd, fel y cymyla’.

“Efo’r albym yma, wnes i drio bod yn wahanol ac unigryw, ond i fod yn fwy mainstream hefyd, fel bod pobol yn gallu relatio at y caneuon – achos mae yna ganu ac mae yna melodies hefyd. Yn hytrach na’i fod o yn hip hop samples drosodd a drosodd. Mae o ychydig bach mwy accesible.”

Yfory (Sadwrn) am 1.30 y p’nawn bydd Mr Phormula yn perfformio holl ganeuon Llais yn siop recordiau Mudshark ym Mangor.

Hefyd bydd yn chwarae Gig y Pafiliwn gyda Cherddorfa Bop Caerdydd ar nos Iau’r Steddfod Genedlaethol.

“Bît-bocsio efo orchestramental!”

Mwy gan Mr Phormula yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.