Mae pennaeth Trinity Mirror yng Nghymru wedi beirniadu’r posibilrwydd y gallai’r Cynulliad Cenedlaethol gyflogi ei newyddiadurwyr ei hun.

Yn ôl Paul Rowland, mae angen ystyried yn ofalus argymhelliad y Tasglu Digidol, a gafodd ei gomisiynu i edrych ar y ffyrdd o fynd i afael â’r “diffyg democratiaeth” yng Nghymru.

Ynghyd ag argymhellion eraill, roedd adroddiad y tasglu, dan gadeiryddiaeth y cyn Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, yn dweud  y dylai’r Cynulliad gyflogi newyddiadurwyr dan arweiniad golygydd “profiadol a diduedd.”

“Mae cynnal sgyrsiau am y ffyrdd y gallwn wella cyfranogiad democratiaeth yn hollol hanfodol,” meddai Paul Rowland.

“Os yw Leighton Andrews a’i dîm yn meddwl mai cael grŵp o newyddiadurwyr y Cynulliad yw’r unig ateb i ddiffyg democratiaeth Cymru, maen nhw’n anghywir.

“Dw i’n siŵr eu bod nhw’n credu mai ei fod ‘mond yn gam i’r cyfeiriad hynny, a gallan nhw fod yn gywir.

“Ond mae angen lefel o gydweithio llawer fwy na’r hyn dw i’n gweld ar hyn o bryd ar yr ateb ehangach.”

Dywed bod hi’n iawn teimlo’n “nerfus” am unrhyw sefydliad newyddion sy’n cael ei ariannu’n gyhoeddus, er ei fod yn cydnabod bod y BBC, sy’n rhan o’r pwrs cyhoeddus, yn llwyddo i gadw hyn ar wahân i’w newyddiadura “y rhan fwyaf o’r amser.”

Roedd Paul Rowland hefyd o’r farn y dylai’r staff yn swyddog wasg y Cynulliad fod yn fwy eglur pan mae’n dod i gyhoeddi datganiadau a siarad “Saesneg a Chymraeg plaen.”

Brolio WalesOnline

Mae Trinity Mirror yn gwmni newyddion anferth o Lundain sy’n cyhoeddi’r Daily Mirror. Mae hefyd yn berchen ar y Western Mail a’r wefan newyddion, WalesOnline ac yn ôl Paul Rowland, dydi’r naratif ynghylch y diffyg democratiaeth yng Nghymru ddim yn cydnabod bod nifer o bapurau print wedi llwyddo i drosglwyddo i’r byd digidol.

Trinity Mirror ydi perchennog y Daily Post hefyd, ac ar hen deitlau fel Yr Herald Cymraeg a’r Caernarfon and Denbigh Herald yn y Gymru Gymraeg.

WalesOnline yw un o’r gwefannau newyddion mwyaf yn y Deyrnas Unedig,” meddai Paul Rowland.

“Mae wedi ennill gwobrau am ansawdd ei newyddiadura. Mae ganddo ddilyniant mawr sy’n tyfu’n gyflym ar gyfryngau cymdeithasol.

“Mae’r gynulleidfa ar gyfer y straeon gwleidyddol ar y wefan yn tyfu ar fwy na dwywaith y raddfa ar y wefan yn gyffredinol.

“Ac eto mae’r ffeithiau hyn – sydd i gyd ar gael yn gyhoeddus – o hyd yn absennol o drafodaethau am sut i daclo diffyg democratiaeth canfyddedig Cymru.”