Mae adroddiad newydd yn nodi fod sefydlu’r corff Cymraeg cenedlaethol y llynedd wedi bod yn llwyddiannus wrth hybu addysg Gymraeg i oedolion.

Cafodd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ei sefydlu ym mis Ionawr 2016 i “symleiddio’r ddarpariaeth”.

Un o gamau cynta’r endid oedd creu 11 o ddarparwyr Cymraeg i Oedolion yn hytrach na’r chwe chanolfan rhanbarthol oedd yn bodoli cyn hynny.

Mae adroddiad Estyn yn nodi fod y ganolfan wedi darparu “cyfeiriad strategol clir i’r holl ganolfannau” ac wedi gwneud cynnydd o ran “datblygu’r cwricwlwm, casglu data ac asesu.”

Argymhellion

“Rydw i’n falch fod y Ganolfan Genedlaethol wedi ad-drefnu’r sector Cymraeg i Oedolion yn effeithiol a’i bod yn mynd i’r afael â’r heriau allweddol sy’n wynebu’r sector,” meddai’r Prif Arolygydd, Meilyr Rowlands.

“Mae gwaith strategol y Ganolfan Genedlaethol yn gam pwysig wrth greu cenedl ddwyieithog a chynorthwyo oedolion i wella eu medrau Cymraeg gartref ac yn y gweithle.”

Er hyn, mae’r adroddiad yn argymell gwella dealltwriaeth pobol o’r trefniadau newydd a mireinio strategaeth farchnata i dargedu mwy o ddarpar ddysgwyr.