Swyddfa'r Cymro ym Mhorthmadog (Kenneth Allen CCA2.0)
Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd er mwyn sicrhau parhad papur newydd, Y Cymro.

Mewn llythyr at y Cyngor Llyfrau a Gweinidog y Gymraeg , Alun Davies, mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud fod angen i Lywodraeth Cymru gynyddu eu grant i’r papur.

Yn y llythyr mae’r mudiad yn mynnu fod “achos cryf dros gynyddu’n sylweddol y gefnogaeth ariannol i’r Cymro” ac yn dweud bod modd ei “datblygu ymhellach.”

Mae perchennog y papur, Tindle,  eisoes wedi dweud eu bod yn bwriadu ei werthu erbyn diwedd mis Mehefin, ac os na chaiff ei phrynu gan brynwr credadwy mae’n bosib fydd Y Cymro yn dod i ben.

“Democratiaeth iach”

“Mae’n rhaid i’r iaith gael ei chyhoeddi mewn papurau newydd os yw hi i ffynnu,” meddai  Llefarydd ar faterion cyfryngau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Carl Morris.

“Gwyddom yn iawn fod darpariaeth ddigidol yn werthfawr iawn i’r Gymraeg, ond mae angen darpariaeth argraffedig yn ogystal, a hynny gan fwy nag un darparwr. Mae democratiaeth iach yn dibynnu ar sawl ffynhonnell newyddion.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r diwydiant cyhoeddi yn cael ei sianelu drwy Gyngor Llyfrau Cymru a nhw sy’n penderfynu pa deitl sy’n cael faint o arian ac ar ba sail.”