Brynglas (Llun: Llywodraeth Cymru)
Mae twnnel Brynglas ar yr M4 ynghau i gyfeiriad y gorllewin heddiw wrth i’r gwaith cynnal a chadw barhau.

Mae traffig i’r gorllewin yn teithio ar hyd yr A48 rhwng cyffordd 24 a chyffordd 28 am y tro.

Bydd y ffordd yn ail-agor rhwng cyffordd 25a a 26 am 6 o’r gloch fore Llun.

Mae systemau mecanyddol a thrydanol y twnnel yn cael eu hadnewyddu ar hyn o bryd.