Mae un o gynghorwyr Gwynedd wedi rhybuddio y gall datblygiad tai newydd “newid amgylchedd a chymuned” ei ward.

Daw’r sylw wedi iddo ddod i’r amlwg bod Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi rhoi sêl bendith i ddatblygiad tai ar safle Pen-y-ffridd ym Mhenrhosgarnedd, Bangor.

Gobaith cwmni Morbaine yw codi 366 o dai, ac mewn llythyr cafodd ei ddanfon gan Lesley Griffiths at Gyngor Gwynedd yr wythnos hon, mae’n dweud ei bod o blaid cymeradwyo’r cais.

Mae’r Cynghorydd Gareth Roberts – sy’n cynrychioli trigolion Ward Dewi – ymysg nifer sydd yn gwrthwynebu’r datblygiad tai gan ddadlau y byddai’n rhoi straen ar gyfleusterau lleol ac yn peryglu’r iaith Gymraeg.

“Effaith abdwyol”

“Doedd trigolion yr ardal ddim am weld datblygiad o’r maint yma yn dod i’r Ward,” meddai Gareth Roberts.

“Mae’n sicr o newid ein hamgylchedd a’n cymuned ac rydym yn siomedig iawn iawn gyda phenderfyniad Llywodraeth Lafur Cymru.

“Bydd y gwaith yn parhau i sicrhau bod aelodau’r Ward yn cael tegwch, bod ardal Bangor yn cael chwarae teg a bod Gwynedd gyfan ddim yn cael ei heffeithio’n andwyol gan ddatblygiad o’r maint hwn.”