Galeri Caernarfon
Nici Beech yw Cyfarwyddwr Artistig newydd Galeri yng Nghaernarfon.

“Dw i wrth fy modd ac yn edrych ymlaen. Dw i’n hapus iawn fy mod i’n mynd i fod yn ymuno â Galeri,” meddai Nici Beech wrth golwg360.

Yn fardd a chynhyrchydd teledu sydd wedi bod yn un o gomisiynwyr S4C, mae Nici Beech hefyd yn adnabyddus am drefnu Gŵyl Fwyd Caernarfon sydd wedi denu miloedd ar filoedd i dref Caernarfon eleni a’r llynedd.

Mae hi hefyd yn un o’r rhai wnaeth sefydlu Gŵyl Arall sy’n cael ei chynnal mewn gwahanol leoliadau yng Nghaernarfon fis nesaf.

Yn ei swydd newydd mi fydd Nici Beech yn olynu Mari Emlyn, ac yn gyfrifol am adloniant a’r celfyddydau yn Galeri Caernarfon.