Mae nifer y myfyrwyr Cymraeg sy’n hyfforddi i fod yn athrawon wedi cwympo i’w lefel isaf ers bron i ddegawd yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd heddiw..

Mae’r ystadegau, a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, yn datgan “… bu’r niferoedd o ran y Gymraeg yn gostwng yn ddiweddar. Yn 2015/16, cyrhaeddodd nifer y myfyrwyr a oedd yn hyfforddi i addysgu yn y Gymraeg ei bwynt isaf ers 2008/09.”

Daw’r sylwadau wedi i Gomisiynydd y Gymraeg ddatgan yn ddiweddar bod rhaid cymryd camau ‘radical’ ym maes addysg er mwyn cyrraedd y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Disgwylir i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei strategaeth iaith pum mlynedd newydd yn fuan.

“Mae’r ffigyrau yn amlygu her aruthrol mae’n rhaid ei thaclo ar frys er mwyn i’r Llywodraeth gyrraedd ei tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg,” meddai Toni Schiavone, Cadeirydd Grwp Addysg, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“O’n trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ac o gasgliadau ein seminar, mae’n glir bod angen arweiniad gwleidyddol gan y Gweinidog ar y materion hyn.

“Rydyn ni wedi gofyn i’r Llywodraeth osod targed blynyddol ar ddarparwyr addysg gychwynnol athrawon, er mwyn sicrhau cynnydd sylweddol a pharhaus yng nghanran a niferoedd yr athrawon newydd eu hyfforddi sy’n medru dysgu drwy’r Gymraeg.

“Fydd yna ddim hygrededd gan strategaeth iaith y Llywodraeth oni bai ei bod yn gosod targedau blynyddol ar gyfer cynyddu’r canran sy’n gadael hyfforddiant cychwynnol athrawon gyda’r gallu i ddysgu drwy’r Gymraeg.”