Cerys Matthews (Llun: gingerblokey CCA 3.0)
Mae’r gantores, Cerys Matthews, ymhlith degau sydd wedi ymateb ar Twitter i’r tân mawr mewn bloc o fflatiau yn Kensington, Llundain.

Mae cyn-brif leisydd y band, Catatonia, yn byw nepell o Grenfell Tower, lle mae’r gwasanaethau brys wedi bod yn ymladd y fflamau ers tua 2 o’r gloch y bore.

Nid yw achos y tân wedi’i gadarnhau eto, ond mae yna bryder y gallai pobol fod yn sownd y tu mewn i’r adeilad 27 llawr o hyd.

Yn ei fideo o’r tân ar wefan gymdeithasol Twitter, mae Cerys Matthews yn dweud y cyfan gydag un gair: “devastated”.