Mae Llenyddiaeth Cymru wedi cyhoeddi enwau beirniaid Llyfr y Flwyddyn 2017.

Y beirniaid ar gyfer y llyfrau Cymraeg a gyhoeddwyd yn ystod 2016, yw’r ddarlledwraig Catrin Beard; y bardd Mari George; ac Eirian James, perchennog siop lyfrau Palas Print, Caernarfon.

Beirniaid y gystadleuaeth Saesneg eleni yw’r awdur Tyler Keevil; yr ysgolhaig Dimitra Fimi; a’r bardd arobryn, Jonathan Edwards.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn addo cyhoeddi rhagor o fanylion “yn fuan”.