Fe ddylai papurau newydd lleol fod wedi elwa o arian grantiau a gafodd ei ddychwelyd i Lywodraeth Cymru gan gwmni Newsquest, yn ôl Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ).

Derbyniodd y cwmni grantiau gwerth £245,000 yn 2015 er mwyn ehangu’r ganolfan, a hynny ar ôl i Newsquest dderbyn £95,000 gan Gronfa Sgiliau Twf Cymru yn 2013-14.

Yn ôl yr NUJ, mae’r arian wedi cael ei ad-dalu’n llawn, ond dyw’r arian ddim yn cael ei ail-ddosbarthu i’r wasg Gymreig

Ar ei hanterth, roedd y ganolfan yng Nghasnewydd yn cyflogi mwy na 70 o bobol, ac yn darparu gwasanaethau i gyhoeddiadau ledled gwledydd Prydain. Ond fe gaeodd ei drysau ym mis Mawrth eleni, a chollodd 14 o bobol eu swyddi, wrth i’r gwaith gael ei symud i Weymouth yn Swydd Dorset.

Mae’r ganolfan yn Dorset hefyd wedi cau bellach.

‘Hanes trist’

“Gwers yr hanes trist hwn yw y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi defnyddio’r grant i gefnogi papurau newydd lleol ac i ariannu prosiectau cyfryngau newydd yn hytrach na’r cyhoeddwr proffidiol hwn sy’n eiddo Americanwyr,” meddai cydlynydd yr NUJ yng Nghymru, John Toner.

“Dyna pam ein bod ni’n gofyn bod yr arian a gafodd ei ad-dalu’n cael ei ddefnyddio i gefnogi mentrau newyddion newydd a rhai sy’n ei chael hi’n anodd.”

Mae John Toner yn tynnu sylw yn benodol at sefyllfa papur newydd y Port Talbot Magnet, sy’n rhan o brosiect cymunedol. Cafodd ei sefydlu saith mlynedd yn ôl drwy grant gwerth £10,000 gan Ymddiriedolaeth Carnegie.

Er bod y papur yn boblogaidd ymhlith ei ddarllenwyr, roedd yr argyfwng dur yn yr ardal yn golygu nad oedd digon o arian lleol ar gael i gynnal y prosiect, ac fe ddaeth i ben ym mis Medi 2016.

“Dyma’r math o fenter y dylid fod wedi ei chefnogi,” meddai.