Ben Lake, ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion
Mae cyn-ymgeisydd Llafur yn etholiadau’r cyngor ym mis Mai eleni wedi gadael y blaid er mwyn cefnogi ymgyrch seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion.

Roedd Wiliam Jac Rees yn ymgeisydd Llafur yn etholiadau’r cynghorau ym mis Mai, ond mae e bellach wedi cyhoeddi ei ymadawiad, gan ddweud ei fod e am gefnogi ymgyrch Ben Lake.

Wrth egluro’i benderfyniad ar wefannau cymdeithasol Facebook a Twitter, dywedod Wiliam Jac Rees y byddai wedi gallu pleidleisio dros Ben Lake wrth aros yn aelod o’r Blaid Lafur, ond nad oedd e am wneud hynny gan ei fod yn “[b]erson sydd yn credu mewn gwleidyddiaeth onest”.

Ychwanegodd ei fod e wedi beirniadu pobol yn y gorffennol am gefnogi ymgeiswyr o bleidiau eraill.

Dadrithio

Ond fe ddywedodd ei fod e wedi cael ei ddadrithio gan “blaid sydd yn ceisio portreadu ei hun fel dwy blaid hollol wahanol yng Nghymru a Lloegr er mwyn ceisio cuddio’r rhaniadau sydd yn bodoli”.

Wrth ganmol ymgeisydd Plaid Cymru, Ben Lake, dywedodd Wiliam Jac Rees mai ef yw’r “unig ymgeisydd sydd gyda gwir siawns o ennill yn erbyn Mark Williams er mwyn sicrhau fydd gan bobl ifanc Ceredigion llais cryf yn San Steffan i siarad lan yn erbyn toriadau Torïaidd i’n gwasanaethau cyhoeddus yn ogystal â gweledigaeth Brecsit eithafol Theresa May”.

Wrth ethol Ben Lake, dywed Wiliam Jac Rees y byddai gan Geredigion “Aelod Seneddol a fyddai’n “gallu gweithio mewn grŵp gweithgar o Aelodau Seneddol Plaid Cymru er mwyn amddiffyn Cymru a Ceredigion yn hytrach na chael un llais gwan sydd yn cael ei thynnu lawr gan ei nifer fach o gydweithwyr yn Lloegr”.

Mark Williams

Wrth drafod yr Aelod Seneddol presennol, y Democrat Rhyddfrydol Mark Williams, ychwanegodd fod Ceredigion wedi cael ei chynrychioli “am rhy hir gan Aelod Seneddol ag oedd yn ddigon parod i glymbleidio gyda’r Torïaid am 5 mlynedd, a chefnogi llywodraeth a wnaeth torri, torri a thorri gan dargedi bobl ifanc yn wael iawn ar draws Cymru”.