Parc Eirias
Mae chwaraewyr rhanbarth Rygbi Gogledd Cymru (RGC) yn ei chael yn anodd credu eu bod nhw yn cael herio Cymru gartref ym Mharc Eirias heno.

Fe werthodd y tocynnau i gyd – 7,500 – ar gyfer y gêm gyfeillgar o fewn oriau ac mae’r ornest ym Mae Colwyn yn cael ei dangos yn fyw ar S4C.

Dyma fydd un o’r gemau mwyaf yn hanes RGC wrth iddyn nhw wynebu tîm Cymru sydd ar fin teithio i herio Tonga yn Seland Newydd ac yna Samoa mewn dwy gêm brawf rhyngwladol.

Yn ôl un o garfan RGC a fydd yn chwarae heno, mae chwaraewyr y rhanbarth “dal methu coelio’r peth”, wrth feddwl am gael herio’r tîm cenedlaethol.

“Dw i wedi bod yma ers y dechrau, ers rhyw bum, chwe blynedd,” meddai Mei Parry, “a phan rydach chi’n ffeindio allan eich bod chi’n cael y cyfle i chwara yn erbyn tîm cenedlaethol Cymru, mae o jesd yn arbennig.”

Mae RGC wedi cael llwyddiant mawr yn ddiweddar wrth gipio Cwpan Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru wedi buddugoliaeth yn erbyn Pontypridd mewn gêm yn y Stadiwm Cenedlaethol fis Ebrill.

“Rydym ni wedi cael tymor arbennig o dda. Dw i’n meddwl ein bod ni wedi profi ein bod ni’n haeddu cael y gêm yma”, meddai Mei Parry.

Bydd y gêm yn fyw ar S4C gyda’r gic gyntaf am saith.