Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod dynes ifanc o ardal Swydd Stafford wedi marw ddoe ger Morlyn yn ne Gwynedd.

Bu farw’r ddynes ifanc yn agos i Lyn Glas, Friog ac mae’r digwyddiad yn cael ei drin gan yr heddlu fel “damwain drasig”.

Mae dogfen yn cael ei pharatoi ar gyfer Crwner gogledd ddwyrain Cymru fel bod modd penderfynu beth oedd achos y farwolaeth.

“Cydymdeimlwn â’r teulu a gofynnwn ar eu rhan bod eu preifatrwydd yn cael ei barchu,” meddai’r Sarjant Helen Gallop.

“Mae ein hymchwiliadau cynnar wedi dangos bod morlyn y Llyn Las, er ei fod yn boblogaidd gydag ymwelwyr, yn anniogel fel lleoliad i nofio neu blymio. Yn bresennol cynghorwn y cyhoedd i aros i ffwrdd.”