Lleuwen Steffan
Mae cân gan gantores o Gymru yn ymateb i’r trychineb ym Manceinion nos Lun wedi’i gwylio fwy na 18,000 o weithiau ar y We.
Un o linellau amlycaf y gân ‘Bendigeidfran’ gan Lleuwen Steffan ydi, “Mae angen pontydd rhyfeddol…”
Dywedodd iddi ysgrifennu’r gân wedi i wledydd Prydain bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn refferendwm Mehefin 23 y llynedd, a’i bod wedi’i hysbrydoli gan lun yr arlunydd Valériane Leblond ar glawr y llyfr i blant Siân Lewis, Pedair Cainc Y Mabinogi.
“O’n i’n teithio yn America ar y pryd, a wnes i ddeffro’r bore wedyn i’r newyddion a doedd fy mhlant methu dallt pam o’n i mor ypset,” meddai Lleuwen Steffan.
Manceinion
Er iddi gyfansoddi’r gân fis Mehefin y llynedd, wnaeth hi ddim o’i chyhoeddi tan ddydd Mawrth yr wythnos hon – y bore wedi’r ymosodiad yn Arena Manceinion a laddodd 22 o bobol.
“Mi oeddwn i’n gweld pethau ar y We – pobol yn troi’n hiliol ac yn rhannu pethau reit beryglus. Mi oedd pawb dan deimlad ac efallai’n trio chwilio am ffordd o sianelu’r egni a’r teimladau hynny,” meddai wrth golwg360.
“Ond mae’n beryg i bobol fynd ar ôl y casineb yn lle’r cariad. Ac yn lle sgwennu rant wleidyddol am y peth, wnes i benderfynu recordio’r gân yn sydyn ar fy ffôn.”
‘Ddim yn disgwyl yr ymateb’
Dywedodd nad oedd hi’n disgwyl yr ymateb a gafodd y gân – sydd i’w gweld yma – gyda’r fideo wedi’i rhannu bron i 2,000 o weithiau.
“Mae dangos fod pobol yn chwilio am gysur, a dw i’n falch os ydy pobol yn cael rhyw fath o gysur neu lygedyn o obaith ohono fo,” ychwanegodd.
Heno, mi fydd Lleuwen Steffan yn perfformio gig acwstig yn Theatr Felin-fach am wyth cyn dychwelyd i Lydaw yfory.