Cynghorydd Sion Jones
Wedi dros ganrif o fod dan awdurdod Cyngor Cymuned Llanddeiniolen, mae cynghorydd a gafodd ei ailethol ar Fai 4 eleni wedi galw ar drigolion dau bentref ar gyrion Caernarfon i sefydlu eu cyngor eu hunain.

Yn ôl Cynghorydd Bethel a Seion, Siôn Jones, er bod y cymunedau wedi arfer a’r drefn, mae hi’n hen bryd am newid.

“Yn amlwg mae hwn yn newid mawr, ond dw i’n meddwl bod hwn yn rhywbeth sydd angen ei wneud rwan ar gyfer yr ardal,” meddai wrth golwg360.

“Mae cyngor Llanddeiniolen yn dweud bod Bethel wedi cael gormod (o arian) dros y pum mlynedd ddiwethaf. Dw i’n dymuno gweld ein bod ni’n cael mwy o gyfleusterau ym Methel … Mae’n amser am newid.”

Codi trethi

Ar hyn o bryd, mae’n rhaid i drigolion dan awdurdod Llanddeiniolen dalu £11 o dreth y flwyddyn, ond mae Siôn Jones am godi’r dreth i £25 er mwyn ariannu prosiectau gan gynnwys bysys newydd a biniau i Fethel a Seion.

“Byddwn ni’n cael y pŵer wrth gwrs i godi trethi,” meddai wedyn.

“Y bwriad sydd gen i ydi rhoi prosiectau gerbron Bethel a Seion bob blwyddyn a deud, ‘ylwch rydan ni eisiau cyflawni hyn flwyddyn yma, ydych chi’n fodlon codi trethi tamaid bach?’’”

“Amser am newid”

Cyngor Cymuned Llanddeiniolen ydi’r cyngor cymuned mwyaf yng Nghymru, ac mae’n cynrychioli naw cymuned i gyd Yn ôl Siôn Jones, fe fyddai sefydlu cyngor newydd yn dod â phŵer yn agosach i drigolion cymunedau Bethel a Seion.

“Rydan ni eisiau penderfynu ein dyfodol ein hunain, ddim dibynnu ar aelodau eraill [o’r cyngor] sydd ddim hyd yn oed yn byw yn yr ardal yn dweud bod Bethel methu cael cyfleusterau newydd. Dw i wedi cael digon ar hynny.”

Bydd trafodaeth gyhoeddus ynglŷn â’r cynlluniau yn cael ei chynnal yn ystod mis Mehefin, ac mae Siôn Jones yn gobeithio y bydd cyngor newydd wedi’i sefydlu erbyn Ionawr 2018 – yn dilyn pleidlais ym mis Gorffennaf.