Ambiwlans Awyr Cymru
Cafodd bachgen 13 oed ei gludo mewn hofrennydd i’r ysbyty ddoe ar ôl iddo ddisgyn 45 troedfedd i hen chwarel ym Merthyr Tudful.
Yn dilyn ymdrech fawr gan wasanaethau brys i’w achub, cafodd y bachgen ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.
Mae’n debyg nad yw wedi cael anafiadau sy’n bygwth ei fywyd a’i fod wedi’i gludo i’r ysbyty “fel rhagofal.”
Roedd y bachgen wedi cwympo i hen chwarel Dan y Darren ger Cefn Coed, Merthyr Tudful tua 3yp dydd Sul.
Cafodd timau achub mynydd, gwylwyr y glannau, parafeddygon yr heddlu a’r gwasanaeth tan eu galw i’r safle.