Nia Griffith (Llun: PA)
Mae dau aelod o’r Blaid Lafur wedi gwrthdaro ynghylch polisi Trident y blaid.

Yn ôl llefarydd materion tramor y blaid, Emily Thornberry, does dim modd sicrhau y bydd y blaid yn cefnogi Trident ar ôl arolwg o’u polisi amddiffyn ar ôl yr etholiad cyffredinol brys ar Fehefin 8.

Ond dywedodd llefarydd amddiffyn y blaid, Nia Griffith nad oedd gan Emily Thornberry gyfrifoldeb am y polisi.

Dywedodd Nia Griffith: “A phob parch, fi, ac nid Emily, yw’r ysgrifennydd amddiffyn cysgodol.”

Mae’r Blaid Lafur eisoes wedi dweud y byddai cryn sylw’n cael ei roi i Trident pe bai Jeremy Corbyn yn Brif Weinidog.

Polisi’r blaid yw cefnogi Trident, ond mae Emily Thornberry yn mynnu nad oes sicrwydd y bydd y polisi’n aros ar ôl yr arolwg.

Barn Emily Thornberry

Mae hi’n cyfaddef ei bod hi’n “sinigaidd” am y polisi.

Dywedodd mewn cyfweliad â gorsaf radio LBC fod rhaid “sicrhau bod y polisi’n gyfredol ac yn ateb bygythiadau’r unfed ganrif ar hugain”.

Ymateb Nia Griffith

Dywedodd Nia Griffith wrth raglen Newsnight: “Ry’n ni’n glir iawn am yr arolwg. Pan gawn ni’r arolwg, wrth ddod i mewn i’r llywodraeth, mae’n fater o sut fyddwn ni’n gwario arian a beth fydden ni’n ei wneud ac ym mha drefn y bydden ni’n ei wneud e, pa fath o amserlen.

“Nid yw’n fater o gwestiynu a fyddai gennym ataliad niwclear Trident oherwydd fe gytunon ni ar hynny y llynedd.”

Mae’r Blaid Lafur wedi cefnogi Trident yn eu maniffesto.

Ychwanegodd Nia Griffith fod “neb wedi codi’r mater o gael gwared ar ataliad niwclear Trident o’n maniffesto”.