Mae S4C yn gobeithio casglu barn pobl Sir Gâr y wythnos nesaf am arlwy’r sianel a’r penderfyniad i symud y pencadlys o Gaerdydd i Gaerfyrddin.

Mae’n rhan o ‘Noson Gwylwyr S4C’ lle bydd pobol leol yn cwrdd â swyddogion S4C ac aelodau’r Awdurdod.

Rhai o’r rheiny yw Cadeirydd S4C, Huw Jones, a Phrif Weithredwr presennol y sianel Huw Jones – gan na fydd y Prif Weithredwr newydd Owen Evans yn dechrau ar ei gyfrifoldebau tan fis Hydref.

Y sector – ‘parhau i dyfu’ yn yr ardal

Mae’r sianel yn awyddus i gasglu barn pobol am arlwy’r rhaglenni gan ddweud eu bod am weld y sector yn “parhau i dyfu yn yr ardal” wrth i bencadlys S4C symud i’r Egin yng Nghaerfyrddin.

“Mae’r sir eisoes yn ganolfan ar gyfer nifer o gynyrchiadau a chynhyrchwyr ac mae ei phobol a’i chymunedau wedi ysbrydoli llawer o gynyrchiadau mwyaf cofiadwy’r sianel dros y blynyddoedd,” meddai Huw Jones, Cadeirydd S4C.

Rhai o’r rheiny yw’r rhaglenni dyddiol Heno a Prynhawn Da sy’n darlledu o stiwdios Tinopolis, Llanelli.

“Rydym yn gobeithio y bydd sector cynhyrchu teledu a ffilm yn yr ardal yn parhau i dyfu ar ôl i bencadlys S4C symud i’r dref,” ychwanegodd Huw Jones.

Mae’r noson yn cael ei chynnal nos Iau, (Mai 25) am 7yh yng Nghanolfan Halliwell, Prifysgol Cymru’r Drindod Dewi Sant.

Yr Egin

Mae’r gwaith o adeiladu Canolfan S4C Yr Egin yn mynd rhagddo yng Nghaerfyrddin a mis diwethaf fe ddywedodd Ian Jones wrth golwg360 na fyddai’r symud yn “costio dim” er bod y sianel yn cael benthyg £10 miliwn gan Lywodraeth Prydain at y costau symud.

Dywedodd Ian Jones fod yr arian hwnnw wedi’i neilltuo ar gyfer prynu offer wedi’r symud, a bod y symud ei hun yn “rhywbeth hollol ar wahân.”